Arts and Wellbeing Charity, Inside Out Cymru seeks new Trustees!  

Do you have a passion for the Arts? Do you believe in the therapeutic effects of creative activity? Are you a recent graduate or already working in the Arts or Social Care sectors? 

If the answer to any of these questions is ‘yes’ then we need your help!

Inside Out Cymru is looking for new volunteer Trustees to help coordinate, develop and oversee their programme of work that takes place across Gwent.

Why become a trustee of Inside Out Cymru?

By becoming a member of our Board of Trustees you will be able to help steer the project forward, learn more about the field of arts and health, and develop practice and connections within this sector.

What would be expected of a trustee?

Inside Out Cymru board members meet 3-4 times per year to input on the charity’s work through advice, opinions and skills-share. Project Managers may call on trustees for their help throughout the year and will always agree time-commitments beforehand. 

About Inside Out Cymru

Established in 2002, Inside Out Cymru is a registered charity that works with adults with the aim of promoting good mental health and well-being through the arts, in the community and in residential settings like hospitals or care-homes. The project covers Blaenau Gwent, Torfaen, Monmouth, Newport and Caerphilly. 

How to apply

To express your interest please send a short letter stating why you are interested in becoming a Trustee of the project. This can be sent by email or post to the contact below: engage@inside-out-cymru.org or Inside Out Cymru, ℅ Arts Service, Blackwood Miners Institute, High St, Blackwood, Caerphilly, NP12 1BB.

The deadline for expressions of interest is 12 noon on Friday 15th March 2024 and we will invite those short-listed to a meeting during April 2024 to meet the other Board members.

For any further information including key responsibilities please contact Kate Verity at info@inside-out-cymru.org

 

 

Elusen y Celfyddydau a Lles, Inside Out Cymru, yn chwilio am Ymddiriedolwyr newydd! 

A oes gennych chi angerdd dros y Celfyddydau? A ydych chi’n credu yn effeithiau therapiwtig gweithgaredd creadigol? A ydych chi wedi graddio’n ddiweddar neu eisoes yn gweithio yn y sectorau Celfyddydau neu Ofal Cymdeithasol?

Os mai ‘oes’ neu ‘ydw’ yw’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, mae angen eich help arnom ni!

Mae Inside Out Cymru yn chwilio am Ymddiriedolwyr gwirfoddol newydd i helpu i gydlynu, datblygu a goruchwylio eu rhaglen waith sy’n digwydd ledled Gwent.

Pam dod yn ymddiriedolwr Inside Out Cymru?

Drwy ddod yn aelod o’n Bwrdd Ymddiriedolwyr, gallwch helpu i lywio’r prosiect yn ei flaen, dysgu mwy am faes y celfyddydau ac iechyd, a datblygu arfer a chysylltiadau o fewn y sector hwn.

Beth fyddai disgwyl i ymddiriedolwr ei wneud?

Mae aelodau bwrdd Inside Out Cymru yn cyfarfod 3-4 gwaith y flwyddyn i gyfrannu at waith yr elusen trwy roi gyngor, barn a rhannu sgiliau. Gall Rheolwyr Prosiect alw ar ymddiriedolwyr am eu cymorth trwy gydol y flwyddyn a byddan nhw bob amser yn cytuno ar ymrwymiadau amser ymlaen llaw.

Ynglŷn ag Inside Out Cymru

Wedi’i sefydlu yn 2002, mae Inside Out Cymru yn elusen gofrestredig sy’n gweithio gydag oedolion gyda’r nod o hybu iechyd meddwl da a lles drwy’r celfyddydau, yn y gymuned ac mewn lleoliadau preswyl fel ysbytai neu gartrefi gofal. Mae’r prosiect yn cynnwys ardaloedd Blaenau Gwent, Torfaen, Mynwy, Casnewydd a Chaerffili.

Sut i wneud cais

I fynegi eich diddordeb, anfonwch lythyr byr yn nodi pam fod gennych ddiddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr y prosiect. Gellir anfon hwn drwy e-bost neu drwy’r post at y cyswllt isod: engage@inside-out-cymru.org neu Inside Out Cymru, d/o Arts Service, Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Stryd Fawr, Coed Duon, Caerffili, NP12 1BB.

Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw 12 canol dydd, dydd Gwener, 15 Mawrth 2024 a byddwn yn gwahodd y rhai sydd ar y rhestr fer i gyfarfod yn ystod Ebrill 2024 i gwrdd ag aelodau eraill y Bwrdd.

Am unrhyw wybodaeth bellach, gan gynnwys cyfrifoldebau allweddol, cysylltwch â Kate Verity ar info@inside-out-cymru.org