Mae Inside Out Cymru yn falch o gyhoeddi cwblhad Creu: Hyrwyddwyr Cymunedol, prosiect celfyddydau cymunedol cyfranogol a gynhaliwyd ar draws Torfaen yn 2025 mewn partneriaeth â phrosiect Adeiladu Cymunedau Gwydn Torfaen.

Wedi’i ariannu gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, daeth y prosiect â chyfleoedd creadigol hygyrch yn uniongyrchol i gymunedau lleol. Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd 48 gweithdy creadigol mewn tri lleoliad, gan ymgysylltu 26 cyfranogwr ag amrywiaeth eang o weithgareddau artistig.

Pwysleisiodd cyfranogwyr effaith greadigol a phersonol y prosiect. Dywedodd un:
 “Doeddwn i erioed wedi printio o’r blaen, ond nawr dwi’n methu â rhoi’r gorau iddo… mae wedi bod yn wych cael lle i gymryd rhan mewn gweithgaredd gyda phobl sy’ union fel fi.”
 Ychwanegodd un arall:
 “Roeddwn i bob amser yn gadael gyda gwên ar fy wyneb…waeth pa hwyliau oedd arnaf yn cyrraedd. Am deimlad braf.”

Aeth wyth cyfranogwr ymlaen i ddatblygu eu hyder ar ein cwrs hwyluso gweithgareddau creadigol, gyda thri yn mynd ymlaen i ddechrau grwpiau cymorth cymheiriaid neu gael gwaith â thâl gyda’r celfyddydau cymunedol – tystiolaeth glir o effaith creadigrwydd ar lesiant a grymuso.

Dysgwch ragor am Stitch Together Cwmafan yma: https://www.facebook.com/profile.php?id=61578290195159#
Dysgwch ragor am waith Alethea Lawton: Link coming soon

Daeth y prosiect i ben mewn arddangosfa ddathliadol yn Amgueddfa Torfaen Museum a Chanolfan Celfyddydau Llantarnam Grange, gan arddangos cyflawniadau cyfranogwyr a rôl creadigrwydd wrth feithrin cymunedau gwydn a chysylltiedig.

Mae ffilm fer gan Santori Films yn cyfleu’r egni, y straeon a’r profiadau cyffredin a lywiodd y flwyddyn; cymerwch olwg ar y ffilm isod!

Gyda diolch i’r canlynol:
 • Prosiect Adeiladu Cymunedau Gwydn Torfaen, Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Torfaen a Rhaglen Cyfuno Torfaen
 • Tŷ Gwent, Neuadd Bentref Cwmafan ac Amgueddfa Torfaen Museum
 • Yr artistiaid Bill Chambers, Rhian Anderson a Nathan Sheen